English

Ein polisi cwcis

Ffeiliau yw cwcis a anfonir i’ch cyfrifiadur, neu ddyfais debyg arall, gan wefan. Yna, gall y wefan honno gael mynediad i’r ffeiliau hyn yn nes ymlaen. Nid yw cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi ac ni ellir eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol.

Rydyn ni’n defnyddio cwcis i gael gwybodaeth ddienw am sut y mae pobl yn defnyddio ein gwefan ac i helpu ni i wybod beth sy’n ddiddorol ac yn ddefnyddiol ar ein gwefan.

Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn ddiofyn. Fodd bynnag, os nad ydych yn fodlon â chwcis, efallai y gallwch newid gosodiadau’ch porwr i wrthod pob cwci neu roi gwybod i chi pan gaiff cwci ei anfon i’ch cyfrifiadur – yna, gallwch chi ddewis p’un ai i dderbyn y cwci ai peidio.

Nodwch na fyddwch, o bosib, yn gallu defnyddio rhai rhannau neu nodweddion ar ein gwefan os byddwch yn gwrthod ein cwcis neu’n atal cwcis yn y dyfodol.

Sut i reoli a dileu cwcis

Ni fydd Cyngor Caerdydd yn defnyddio cwcis i gasglu eich gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, os ydych am gyfyngu neu rwystro’r cwcis a osodir gan wefannau Cyngor Caerdydd, neu unrhyw wefan arall, gallwch wneud hyn drwy osodiadau eich porwr. Dylai opsiwn Help eich porwr allu eich tywys drwy hyn.

Fel arall, efallai yr hoffech fynd i www.aboutcookies.org sy’n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am sut i wneud hyn ar amrywiaeth o borwyr. Hefyd, fe welwch fanylion am sut i ddileu cwcis o’ch cyfrifiadur ynghyd â gwybodaeth fwy cyffredinol am gwcis. I gael gwybodaeth am sut i wneud hyn ar borwr eich ffôn symudol bydd angen i chi ddarllen llawlyfr eich ffôn.

Cofiwch y gall cyfyngu ar gwcis effeithio ar weithrediad gwefannau Cyngor Caerdydd.

Google Analytics

Mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth analytig a ddarperir gan Google, Inc. Mae Google Analytics yn gosod cwci er mwyn gwerthuso eich defnydd o’r Rhaglen Newyddion ac i lunio adroddiadau i ni ar weithgarwch y Rhaglen Newyddion.

Mae Google yn storio’r wybodaeth a gesglir gan y cwci ar weinyddwyr yn yr Unol Daleithiau. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti lle bo angen gwneud hynny yn ôl y gyfraith, neu lle mae trydydd parti o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata a gedwir gan Google. Drwy ddefnyddio’r Rhaglen Newyddion, rydych yn rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y dulliau ac at y dibenion a nodir uchod.

Sut i wrthod neu ddileu’r cwci hwn

Cwcis a osodir gan wefannau Trydydd Parti

I gefnogi ein gwefannau, rydym weithiau’n mewnosod ffotograffau a fideos o wefannau fel YouTube a Flickr. O ganlyniad, pan fyddwch yn ymweld â thudalen sydd â chynnwys sydd wedi’i fewnosod o, er enghraifft, YouTube neu Flickr, mae’n bosibl y cewch gwcis o’r gwefannau hyn. Nid yw Cyngor Caerdydd yn rheoli lledaeniad y cwcis hyn. Dylech edrych ar wefan y trydydd parti perthnasol i gael rhagor o wybodaeth.

Noder: Os byddwch yn dewis peidio â gwrthod cwcis rydych yn cytuno y gallwn ni eu defnyddio ar ein gwefannau.